Offeryn newydd i hyrwyddo mannau cynnal yn y sir

Mae offeryn rhad ac am ddim wedi cael ei lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd yn cynnig gwybodaeth am yr holl gyfleusterau cymunedol sydd ar gael yn y sir.
Mae Is-adran Eiddo y Cyngor wedi cysylltu â'r sector cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, y trydydd sector a busnesau lleol yn y sir ar hyn o bryd i greu 'siop un stop' ynghylch yr holl leoliadau yn Sir Gaerfyrddin sy'n darparu mannau cynnal ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau a mwy.
Cefnogir y prosiect gan Un Llais Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim gwych i hyrwyddo llawer o fannau cynnal yn y Sir a fydd, gobeithio, yn cynyddu busnes a rhoi incwm ychwanegol i'r mannau hyn. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n chwilio am fannau yn y Sir i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eu gweld i gyd drwy glicio un botwm yn unig."
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am sut i roi eich manylion cysylltwch â'r Tîm Cofnodion Eiddo.