Swyddogion gorfodi yn mynd i'r afael â phroblemau sbwriel
Mae dirwyon gwerth cyfanswm o £700 wedi cael eu rhoi am droseddau sbwriel yn Sir Gaerfyrddin ym mis Medi.
Mae swyddogion gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn dilyn trywydd adroddiadau gan y cyhoedd ac yn dal rhai pobl wrthi'n gollwng sbwriel ac yn methu â chodi baw eu cŵn.
Dyma'r Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd ym mis Medi:
- Dirwy o £100 i breswylydd yn Stryd Bury, Llanelli, am roi bagiau du allan yn ystod wythnos bagiau glas, er iddo gael rhybuddion blaenorol
- 2 x Dirwy o £100 i ddau ddyn am fethu â chodi baw eu cŵn
- Dirwy o £100 i fenyw am fethu â chydymffurfio â gwaharddiad ar gŵn ym Mharc Havelock, Stryd Havelock, Llanelli
- Dirwy o £75 i ddyn am adael bocs cardbord ar y llawr wrth y biniau ailgylchu yng Nghanolfan Ailgylchu Dylan, Llwynhendy
- Dirwy o £75 i ddyn a gafodd ei ddal yn gollwng stwmpyn sigarét yng nghanol tref Caerfyrddin
- Dirwy o £75 i breswylydd yng Ngharwe am adael bag plastig o wastraff y cartref ar y llawr yn safle ailgylchu Carwe
- Dirwy o £75 i fenyw am adael bocsys ar y llawr yng nghanolfan ailgylchu Sanclêr
Hefyd, rhoddwyd pedair dirwy i bobl a ollyngodd stympiau sigaréts yng nghanol tref Rhydaman yn ystod diwrnod gweithredu Rhydaman - rhoddwyd tair i fenywod ac un i ddyn.