Cyhoeddi enillwyr y gwobrau dathlu diwylliant

Cyhoeddwyd enwau enillwyr Gwobrau Dathlu Diwylliant Sir Gaerfyrddin, a gynhelir eleni am yr eildro.
Mae 18 - tri o bob categori - wedi cael eu dewis o blith mwy na 110 o geisiadau.
Nod y Gwobrau, a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, y Llanelli Star a'r Carmarthen Journal, yw hoelio sylw ar bob rhan o'r celfyddydau a diwylliant.
Mae'r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth yn y celfyddydau gweledol, perfformio a cherddoriaeth yn ogystal â'r cyfryngau creadigol, llenyddiaeth a threftadaeth.
Bydd enillwyr dau o'r wyth categori, sef Talent Ifanc a Chyfraniad Eithriadol i Ddiwylliant, yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar nos Wener 5 Ebrill. Cyflwynydd y noson fydd Marc Griffiths.
Y panel beirniaid oedd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Golygydd y Carmarthen Journal sef Jonathan Roberts, a'r ymarferydd theatr Carys Edwards.
Dywedodd Mr Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac sydd y tu ôl i'r cynllun gwobrau: “Mae'r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dathlu Diwylliant 2018 yn dangos yn glir y cyfoeth o weithgareddau diwylliannol sydd i'w cael Sir Gaerfyrddin drwyddi draw. Roedd hi'n anodd iawn dewis y tair gwobr uchaf ym mhob categori. Gallwn fod mor falch o'n hunigolion talentog, ein grwpiau a'n hamrywiol gymdeithasau. Rydym yn awr yn edrych ymlaen at Ddathlu ein Diwylliant ar y 5ed o Ebrill yn Theatr y Ffwrnes.”
Ymhlith y noddwyr y mae Coleg Sir Gâr, Cyngor Tref Llanelli, Bwydydd Castell Howell a Llanelli Trailer Centre.
Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â'r digwyddiad hwn, cysylltwch ag Isabel Goodman, Rheolwr Digwyddiadau Rhanbarthol Cyfryngau Cymru ar 01792 545511 neu isabel.goodman@mediawales.co.uk
Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio
- CFfi Sir Gaerfyrddin
- Cwmni Theatr Mess up the Mess
- People Speak Up
Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau
- Mathew Browne
- Michele Shiels
- Tywi Valley Arts Trail
Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol
- Richard Rees, Taith yr Afon Tywi
- Lens 360
- Sound Memories Dementia Friendly Online Radio System
Rhagoriaeth mewn Llenyddiaeth
- Alun Gibbard
- Gŵyl Llên Llandeilo 2018
- Cymdeithas Hanes Llansteffan
Rhagoriaeth mewn Treftadaeth
- Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2018
- Theatr Ieuenctid Llanelli
- Treftadaeth Nas Cerir a Chymdeithas Archaeolegol Dyfed
Rhagoriaeth mewn Cerddoriaeth
- Cerys Angharad
- Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont, CFfI Sir Gâr
- Côr y Strade