Dirwy i ffermwr ar ôl darganfod dros 70 o anifeiliaid marw

80 diwrnod yn ôl

RHYBUDD: Efallai y bydd y llun yn peri trallod i rai darllenwyr.

Mae ffermwr o Langadog wedi cyfaddef ei fod wedi cyflawni sawl trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ar ôl i fwy na 70 o garcasau gael eu darganfod ar ei dir.

Bydd Teifion Williams, sy'n ffermio ar dir ym Mronallt, yn talu dros £3,700 o ddirwyon a chostau am y troseddau yr ymchwiliwyd iddynt gan dîm lles anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Chwefror a mis Mawrth 2018.

Gwrandawyd ar ei achos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 26 Ebrill.

Rhoddwyd gwybod i'r ynadon bod swyddogion wedi cyfrif 32 o garcasau defaid yn ystod eu hymweliad cyntaf o ganlyniad i gŵyn. Roedd y carcasau wedi pydru i wahanol lefelau ac roedd esgyrn yn y caeau a oedd wedi cael eu cannu gan yr haul.

Er y dywedodd Williams ei fod wedi cael llawer o golledion sydyn y flwyddyn honno ar un cae penodol, nid oedd gan y swyddogion bryderon am les y defaid a oedd yn pori ar y tir.

Cyflwynwyd hysbysiad iddo a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo waredu'r carcasau cyn pen pedwar diwrnod.

Fodd bynnag, wrth weithredu yn sgil ail gŵyn, aeth y swyddogion i un o'i gaeau eraill - ger cilfan ar yr A40 - rai diwrnodau'n ddiweddarach.

Yng nghwmni milfeddyg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, gwelsant 39 o garcasau pellach - gan gynnwys ŵyn, dafad a fu farw yn ystod y broses wyna, carcasau'n gorwedd mewn nant, a hwrdd Mynydd Cymreig Du a fu farw o flinder ar ôl i'w gorn gael ei ddal ar ffens.

Yn sgil post-mortem un o'r defaid, canfuwyd lefelau uchel o wyau trichostrongyle a nifer fawr o lyngyr yr ysgyfaint.

Ar ôl archwiliad pellach, gwelodd y swyddogion a'r milfeddyg fwy o garcasau, gan gynnwys rhai a ddylai fod wedi'u gwaredu ar ôl yr hysbysiad, esgyrn rhydd a chnu a ymddangosai fel petai wedi'i losgi, ac o leiaf un carcas buwch mewn storfa fiswail.

Clywodd y llys nad oedd Williams wedi bod yn canolbwyntio ar redeg y fferm mewn modd priodol oherwydd salwch angheuol a marwolaeth ei fam ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.

Pwysleisiwyd y ffaith nad oedd ganddo gollfarnau blaenorol gan ei dîm amddiffyn, yn ogystal â'r archwiliadau dilynol ar ei fferm a oedd yn iawn.

Dywedodd hefyd nad ei anifail ef oedd yr hwrdd Mynydd Cymreig Du, ond derbyniodd fod ganddo gyfrifoldeb dros ei les beth bynnag.

Dadleuodd ei dîm amddiffyn yn erbyn gorchymyn cymunedol, a fyddai'n effeithio ar ei allu i redeg y fferm, a chytunodd yr ynadon ar gosb ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Rwy'n ddiolchgar am waith trylwyr ein tîm iechyd anifeiliaid o archwilio'r achos gofidus hwn. Rydym yn ystyried lles anifeiliaid, a diogelwch sgil-gynhyrchion anifeiliaid, yn ddifrifol iawn, ac nid oedd dewis ond mynd â'r achos hwn i'r llys."