Ymgynghori ar ddarpariaeth Gymraeg ysgolion

69 diwrnod yn ôl

Bydd cynigion i newid y ddarpariaeth ieithyddol mewn pump o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyflwyno mewn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin am gael adborth ar gynigion i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Rhys Prichard, Ysgol y Ddwylan, Ysgol Llys Hywel, Ysgol Griffith Jones ac Ysgol Llangynnwr - ysgolion sydd ar hyn o bryd yn ysgolion dwy ffrwd.

Cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar y cynigion a'r ymgynghoriad ddydd Llun, 13 Mai.

O dan y cynlluniau, bydd yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel yn newid i'r Gymraeg, gyda dewis o'r cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2.

Yn Ysgol Rhys Prichard, lle mai dim ond un plentyn sy'n cael ei addysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar hyn o bryd*, y cynnig yw newid natur y ddarpariaeth yn ffurfiol i'r Gymraeg.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 20 Mai, a bydd yn parhau tan 30 Mehefin, 2019.

Bydd sesiynau galw heibio agored ar gyfer yr ymgynghoriad yn cael eu cynnal, gan gynnwys cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chael trafodaethau gyda swyddogion addysg y Cyngor. 

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Ysgol Rhys Prichard - 3 Mehefin, 5-7pm
  • Ysgol Llys Hywel – 4 Mehefin, 5-7pm
  • Ysgol y Ddwylan – 5 Mehefin, 5-7pm
  • Ysgol Griffith Jones – 6 Mehefin, 5-7pm
  • Ysgol Llangynnwr – Mehefin 7, 5-7pm

Mae'r cynigion yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod a'i weledigaeth am Sir Gaerfyrddin ddwyieithog, yn ogystal ag amcanion Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw bod pob disgybl yn siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Mae'r ymgynghoriad yn rhan bwysig iawn o'r broses. Mae'n gyfle i bobl roi eu barn ac i ni glywed beth sydd ganddynt i'w ddweud. Byddwn yn gwrando ar yr ysgolion, y rhieni ac unrhyw un arall sy'n cymryd diddordeb.

“Rydym eisiau symud ymlaen gyda'n gilydd, ac mae hynny'n hanfodol ac yn bwysig i lwyddiant y cynllun hwn.

“Mae 2050 yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd ond mae'n rhaid i'r broses ddechrau nawr – ni allwn wastraffu amser.”

 

*Data mwyaf diweddar : Ionawr 2018

Dyddiad gorffen: 30 Mehefin, 2019