Adroddiad Llifogydd Storm Callum yn gwneud 55 o argymhellion

84 diwrnod yn ôl

Mae ymchwiliad i'r llifogydd a ddigwyddodd yn Sir Gaerfyrddin yn ystod Storm Callum wedi gwneud 55 o argymhellion i'w gweithredu.

Effeithiwyd ar gannoedd o gartrefi a busnesau ledled y sir gan rai o'r llifogydd gwaethaf i daro de Cymru yn y 50 mlynedd diwethaf.

Storm Callum yw'r llifogydd mwyaf a gofnodwyd erioed ar gyfer Afon Teifi, a'r mwyaf ar gyfer Afon Tywi ers 1987. Roedd ymgyrch glanhau enfawr yn sgil y llifogydd, a gostiodd filiynau o bunnoedd.
Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae'n ofynnol yn statudol i Gyngor Sir Caerfyrddin o dan adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 gynnal ymchwiliad a chyhoeddi'r canfyddiadau.

Yn benodol, dylid llunio adroddiadau ar gyfer llifogydd os byddant yn effeithio ar fwy na 20 o eiddo'n fewnol yn yr ardal. O ganlyniad, mae adroddiadau cyflawn wedi'u llunio ynghylch y llifogydd a gafodd effaith ar gymunedau yn Nhre Ioan, Caerfyrddin; Pen-sarn, Caerfyrddin; Llanybydder a Llandysul / Pont-tyweli. Cafwyd llifogydd mawr hefyd yng Nghastell-newydd Emlyn ger ffin y sir, ond mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd cyfrifoldeb am hwnnw.

Mae grŵp llifogydd amlasiantaeth Storm Callum wedi bod yn cyfarfod yn fisol ers mis Hydref er mwyn goruchwylio'r gwaith o ymchwilio i'r argymhellion a'u gweithredu, a bydd yn parhau i gyfarfod bob chwarter i drafod cynnydd o ran y camau amrywiol. Mae llawer o'r argymhellion eisoes wedi'u gweithredu. Mae rhai ohonynt yn gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol; mae rhai eraill yn gyfrifoldeb i'r asiantaethau partner amrywiol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Network Rail.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Cafodd Storm Callum effaith ddinistriol ar lawer o'n cymunedau ac effaith go iawn ar fywydau pobl. Ni allwn ddiystyru'r difrod sydd wedi'i achosi gan lifogydd o'r fath hon ac mae' nbwysig bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal er mwyn i ni geisio deall yr hyn a ddigwyddodd a pham, a'r hyn y gallwn geisio ei wneud o ran atal llifogydd yn y dyfodol."

Dywedodd Ruth Mullen, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, sy'n cadeirio'r grŵp llifogydd amlasiantaeth: "Wrth gamu ymlaen credaf fod yr adroddiad yn ei gwneud hi'n eglur bod angen i ni i gyd gael gwell dealltwriaeth a rheolaeth o berygl llifogydd; ac mae angen i ni hefyd lenwi rhai bylchau mewn perthynas â'r wybodaeth a'r dealltwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd, er enghraifft, mewn perthynas â'r rhwydwaith draenio dŵr wyneb.

"Hefyd mae yna arolygon ac ymchwiliadau pellach y gellir eu gwneud mewn rhai ardaloedd er mwyn i ni ddeall yn well os oes unrhyw fesurau ychwanegol y gellir eu gweithredu i leihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd hyn yn costio arian a bydd yn dibynnu ar gyllid a/neu grantiau pellach. Rydym eisoes wedi derbyn £3.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wneud atgyweiriadau i'r rhwydwaith ffyrdd oherwydd difrod yn sgil Storm Callum ac rydym hefyd wedi cael cynnig llwyddiannus am £30k o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth ddichonoldeb/achos busnes amlinellol er mwyn gwerthuso'r perygl o lifogydd a'u hatal ym Mhen-sarn."

Bydd adroddiad yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd i'w drafod ddydd Gwener 5 Gorffennaf.