Cynllun y Cyngor i leihau CO2 bron i 700 tunnell y flwyddyn

34 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn buddsoddi dros £2.5 miliwn i arbed ynni yn ei adeiladau mewn ymgais i leihau allyriadau carbon bron i 700 o dunelli'r flwyddyn.

Mae'n rhan o ymdrechion y cyngor i fod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030, sef ymrwymiad a gafodd ei wneud ym mis Chwefror wrth ddatgan argyfwng hinsawdd.

Mae'r awdurdod wedi cael benthyciad di-log i dalu am gynllun Re:fit Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio arbedion sy'n deillio o'r costau i'w ad-dalu dros gyfnod o ddeng mlynedd

Bydd technoleg newydd yn cael ei gosod mewn adeiladau annomestig gan gynnwys ysgolion a hynny er mwyn arbed ynni a dŵr, ac amcangyfrir y bydd 691 o dunelli o CO2 yn cael eu harbed bob blwyddyn.

Mae dros 30 o safleoedd wedi'u nodi ar gyfer cam un y cynllun, a chaiff y gwaith ei wneud ar ran y cyngor gan y cwmni ynni adnewyddadwy Ameresco.

Gyda'r Cyngor eisoes wedi gosod mesurau arbed ynni yn ei adeiladau, dyma gynllun ychwanegol at hynny.

Hyd yma, mae buddsoddiad o dros £2 filiwn wedi ei wneud mewn dros 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni, gan arbed dros £7 miliwn mewn costau cynnal a 41,000 o dunelli o CO2 drwy gydol oes y technolegau a osodir.

Mae gan y Cyngor bolisi o integreiddio technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis ysgolion, lle mae gosodiadau ffotofoltäig a safonau Passivhaus eisoes yn cael eu defnyddio.

Mae fflyd y Cyngor o lorïau sbwriel yn un o'r fflydoedd sydd fwyaf cydnaws â'r amgylchedd yng Nghymru o ran allyriadau; mae goleuadau stryd wedi cael eu newid yn unedau LED; a chafwyd buddsoddiad sylweddol o ran Llwybrau Diogel yn y Gymuned a Llwybrau Diogel i Ysgolion i annog mwy o deithio cynaliadwy.

Yn 2012 Sir Gaerfyrddin oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan, ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwefrwyr yn dilyn cynnydd yn nifer y ceir trydan sy'n cael eu gwerthu. 

Y llynedd, roedd y cyngor wedi gwneud addewid i leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y cyngor a gwahardd gwellt a chwpanau plastig.

Cefnogwyd datganiad hinsawdd y cyngor yn unfrydol gan gynghorwyr ym mis Chwefror.

Yn ogystal â chyflwyno a chynllunio newidiadau gan anelu at fod yn awdurdod lleol di-garbon erbyn 2030, mae'r cyngor hefyd wedi galw ar Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau i alluogi lleihau carbon yn effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym o ddifrif gyda'r nod o fod yn awdurdod carbon niwtral ac rydym yn falch o wneud y buddsoddiad hwn i arbed allyriadau carbon niweidiol yn ogystal ag arbed ar y gost o redeg ein hadeiladau.

"Ynghyd â'n rhaglen barhaus o resymoli eiddo, rydym yn arbed arian ac yn cwtogi ar garbon mewn cyfnod lle mae costau cyfleustodau ar gynnydd. Mae pawb yn elwa o'r sefyllfa hon gan ein bod hefyd yn medru gwella'r amgylchedd."