Ffermwr yn y llys am fethu cadw trefn ar gofnodion

142 diwrnod yn ôl

Mae ffermwr godro o Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy am fethu cadw trefn ar gofnodion a allai fod wedi cyfrannu at ledaenu twbercwlosis buchol ar ei safle.

Cafodd James Thomas, sy'n berchen Post Uchaf yn Aber-nant, ei orchymyn i dalu £14,000 o gostau a gordal dioddefwyr o £120 yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i wartheg gael pasbortau anifeiliaid a thagiau ar eu clustiau â rhif adnabod unigryw y mae'n rhaid eu cadw gydol eu hoes.

Ond yn ystod cyfres o ymweliadau â'i safle rhwng mis Chwefror a mis Hydref yn 2017, canfuwyd bod nifer o'r gwartheg ar fferm Mr Thomas naill ai heb dagiau ar eu clustiau neu heb basbortau, neu nid oeddent ar gofnodion Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain.

Canfuwyd hefyd fod rhai anifeiliaid wedi symud i'r safle heb ganiatâd tra oedd y fferm dan gyfyngiadau twbercwlosis.

Yn ystod profion twbercwlosis ar y fferm, gwelwyd bod nifer o'r anifeiliaid a oedd wedi'u cofrestru i'r daliad ar goll. Roedd anifeiliaid eraill heb eu cofrestru, ac roedd rhai wedi cael eu symud i'r safle ac oddi arno heb roi gwybod i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain.

Bu i Gyngor Sir Caerfyrddin, drwy weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, ddwyn yr erlyniad yn ei erbyn.

Plediodd Mr Thomas yn euog i droseddau gan gynnwys torri rheoliadau twbercwlosis, a chafodd ddirwy o £2,000 am hynny. Yn ogystal, cafodd ddirwy o £2,200 ar gyfer nifer o droseddau o ran torri rheoliadau adnabod gwartheg.

Yn y datganiad lliniaru, dywedodd cyfreithiwr Mr Thomas wrth y llys fod gweithwyr eraill a oedd yn helpu i redeg y fferm ar yr adeg honno wedi methu â chadw cofnodion yn gyfredol, ond bod Mr Thomas yn ymddiheuro ac yn derbyn y cyfrifoldeb eithaf. Dywedwyd wrth y llys hefyd fod Mr Thomas, sy'n gobeithio ymddeol o ffermio, yn yr ysbyty pan gafodd yr anifeiliaid eu symud i'r safle yn ystod y cyfyngiad twbercwlosis.

Dywedodd y Cynghorydd Phillip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae'r cyngor yn gweithio'n galed gyda sefydliadau partner i sicrhau bod modd olrhain yr holl gynnyrch a gyflenwir o'n ffermydd, ac mae hyn yn dangos y byddwn yn cymryd camau gweithredu pan fydd diffygion o ran cadw cofnodion yn peryglu iechyd a lles anifeiliaid.

"Nid yw rheoliadau adnabod gwartheg yn ofyniad cyfreithiol yn unig – mae hefyd yn hanfodol er mwyn atal clefydau anifeiliaid rhag lledaenu, gan helpu ffermwyr i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb.

"Mae cyfraniad busnesau amaethyddol i economi Sir Gaerfyrddin yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ond mae'n rhaid i ffermwyr gydymffurfio â deddfwriaeth i gynnal enw da y sir am ei chynnyrch o safon uchel. "