Cynlluniau cyffrous i ddatblygu gwesty newydd yn Llanelli
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer datblygiad cyffrous o westy â 140 gwely ym Machynys, Llanelli.
Bydd y gwesty arfaethedig ar hyd arfordir trawiadol Llanelli yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ymlacio i hyrwyddo llesiant ac yn rhoi cyfle gwych i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd y cynlluniau arfaethedig i adeiladu gwesty â 140 gwely ym Machynys yn rhoi cyfleoedd gwych i'r ardal o ran twristiaeth a chyflogaeth yn ogystal â chyd-fynd â datblygiad cyffrous Pentre Awel a fydd yn darparu cyfleusterau busnes, hyfforddiant, iechyd a llesiant o'r radd flaenaf i breswylwyr ac ymwelwyr."
Gellir gweld manylion y cais cynllunio arfaethedig, y cynlluniau a'r dogfennau ategol ar wefan Morlan Elli.