Covid-19 - Cyfyngiadau cyfredol wedi'i diweddaru ar 12 Ebrill
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i'r cyfyngiadau cenedlaethol sydd ar waith. Ewch i'r dudalen Newyddion i gael cipolwg ar sut mae hyn yn effeithio arnoch chi, y cyngor diweddaraf a wybodaeth leol. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.
Daliwch ati i wneud gwahaniaeth

Ydych chi'n 16 neu'n 17 oed?
Gallwch nawr bleidleisio yn Etholiad y Senedd 2021
Yng Nghymru, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed gofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd eleni, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 6 Mai. Mae hyn yn golygu y gallwch ddweud eich dweud bellach ar faterion sy'n effeithio ar Gymru megis:
- Addysg
- Gofal iechyd
- Tai
- Yr Amgylchedd
- Economy
- Y Gymraeg
Dim ond yn etholiadau'r Senedd y gallwch bleidleisio o 16 oed. Mae etholiadau Senedd y DU, etholiadau'r Cyngor lleol ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn wahanol, ac ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau hyn nes eich bod yn 18 oed. Ond drwy gofrestru cyn hynny gallwch bleidleisio cyn gynted ag y byddwch yn gymwys.
Beth yw'r Senedd?
Senedd Cymru yw'r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl. Mae'n deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Pam ddylwn i bleidleisio?
Er mwyn gwneud newid neu ddylanwadu ar eich dyfodol mae angen i chi wneud eich rhan dros ddemocratiaeth, ac un ffordd o wneud hynny yw pleidleisio mewn etholiadau. Drwy wneud hyn, mae'n golygu y gallwch helpu i benderfynu ar bwy sy'n eich cynrychioli ac sy'n gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae gwleidyddiaeth a democratiaeth yn dylanwadu ar bopeth o'ch amgylch, ac erbyn hyn mae mwy o bobl yn gallu pleidleisio yng Nghymru nag erioed o'r blaen!
Awgrym defnyddiol: Os oes gennych ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, beth am ymuno â Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin? Grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o bob cwr o Sir Gaerfyrddin sy'n llais i gynrychioli safbwyntiau a barn yr holl bobl ifanc yn y sir.
Sut y byddaf yn gwybod dros bwy i bleidleisio?
Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad senedd Cymru, mae gennych ddwy bleidlais. Un i ddewis eich aelod etholaeth (Sir Gaerfyrddin) a'r llall i ethol eich aelod rhanbarthol (Canolbarth a Gorllewin Cymru).
Yn y bleidlais etholaethol, byddwch yn dewis yr ymgeisydd yr ydych eisiau iddo eich cynrychioli'n uniongyrchol. Yn y bleidlais ranbarthol, byddwch yn dewis o restr o bleidiau neu ymgeiswyr yr ydych eisiau iddynt gynrychioli yn eich rhanbarth.
Awgrym defnyddiol: Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i ymgeiswyr yn y cyfnod cyn etholiad. Dewiswch yr ymgeisydd rydych chi'n credu fydd yn eich cynrychioli orau. Fe fydd rhestr o ymgeiswyr ar ein tudalen Etholiadau Senedd Cymru unwaith y bydd eu manylion ar gael.
Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?
Dim ond os bydd eich enw'n ymddangos yn y Gofrestr Etholiadol y gallwch bleidleisio mewn etholiadau, a dyna pam mae angen i chi gofrestru'n gyntaf. Gallwch wneud hyn ar ffôn symudol, llechen neu liniadur, a dim ond 5 munud y mae'n ei gymryd!
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar unrhyw adeg, ond y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021 yw dydd Llun 19 Ebrill 2021. Rhaid i chi gofrestru cyn hynny er mwyn gallu pleidleisio. Os nad ydych yn sicr a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, llenwch ein ffurflen ar-lein a byddwn yn gwirio eich manylion.
Os ydych dros 16 oed, bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch i gofrestru. Os ydych yn 14 oed, byddwch yn gallu cofrestru o hyd er na fyddwch wedi cael rhif Yswiriant Gwladol.
Awgrym defnyddiol: Er nad yw pleidleisio'n orfodol, mae cofrestru i bleidleisio yn ofyniad cyfreithiol. Os gofynnir i chi gofrestru ac nid ydych yn gwneud hynny, gallech gael dirwy!

Gallwch bleidleisio mewn tair ffordd wahanol...
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio yn y post cyn yr etholiad. Wedyn bydd gennych dri dewis ar sut yr hoffech bleidleisio:
Drwy fynd i'r man pleidleisio
Byddwch yn mynd i'ch gorsaf bleidleisio ddynodedig ar ddiwrnod yr etholiad i bleidleisio. Mae'n rhaid i chi fynd i'r orsaf bleidleisio ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi'i ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio. Bydd manylion eich gorsaf bleidleisio ar y cerdyn a gewch drwy'r post.
Drwy'r post
Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen gais, sydd wedyn yn eich galluogi i gael y papur pleidleisio i'ch cartref. Llenwch y ffurflen eich hun a'i phostio'n ôl i'n swyddfa etholiadau. Y dyddiad cau i gofrestru am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai yw 5pm dydd Mawrth 20 Ebrill.
Drwy ddirprwy
Mae dirprwy yn golygu caniatáu i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan. Y rheswm am hyn fel arfer yw eich bod yn sâl, neu o bosibl allan o'r wlad ar adeg yr etholiad. Gwnewch gais am bleidlais ddirprwy cyn 5pm ddydd Mawrth 27 Ebrill.
Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy
Beth ddylwn ei wneud ar ddiwrnod yr etholiad?
Os ydych wedi penderfynu pleidleisio drwy fynd i'r man pleidleisio, mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio. Gallant fynd yn brysur iawn, yn enwedig tua diwedd y dydd. Wrth gyrraedd yr orsaf bleidleisio, bydd angen i chi roi eich enw i'r clerc pleidleisio y tu ôl i'r ddesg. Bydd y staff wedyn yn rhoi papur pleidleisio i chi yn rhestru'r ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt.
- Ewch â'ch papur pleidleisio (neu bapurau) i mewn i fwth pleidleisio fel na all neb weld sut yr ydych chi'n pleidleisio.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau ar eich papur pleidleisio yn ofalus iawn, er mwyn sicrhau eich bod yn ei gwblhau'n gywir.
- Cwblhewch y papur pleidleisio yn unol â'r cyfarwyddiadau. Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
- Peidiwch â phoeni os byddwch yn gwneud camgymeriad, rhowch wybod i'r staff a gallant roi un newydd i chi.
- Yn olaf, ond yn bwysicaf oll, ar ôl i chi wneud hynny, rhowch eich papur pleidleisio wedi'i gwblhau yn y blwch pleidleisio.
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych nam ar y golwg, siaradwch â staff yr orsaf bleidleisio a fydd yn helpu.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth cyn diwrnod yr etholiad, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau drwy ffonio 01267 228889 neu anfon neges e-bost at electoralservices@sirgar.gov.uk.