• Hepgor gwe-lywio
  • English

Yr ysgol Eglwys gyntaf ennill gwobr siarter iaith

Ysgol Penboyr yw’r ysgol Eglwys gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i ennill gwobr siarter iaith newydd.

Mae’r ysgol wedi cael Gwobr Efydd Codi Caerau Sir Gâr am y cynnydd mae'r ysgol a'i disgyblion wedi ei wneud o ran hybu'r defnydd o Gymraeg achlysurol.

Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ym mhentref gwledig Felindre yw Ysgol Penboyr o dan reolaeth Awdurdod Sir Gâr. Mae’r disgyblion yn dod yn bennaf o ddalgylch eang yn cwmpasu sawl pentref lleol - Cwmpengraig, Waungilwen, Cwmhiraeth, Penboyr, Drefelin a’r ardal wledig o amgylch.

Dywedodd y brifathrawes Carol James: “Mae 106 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ar hyn o bryd. Daw 70 y cant o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac felly rydym yn hynod o hapus fod yr ysgol wedi llwyddo i ennill gwobr Efydd Siarter Iaith Sir Gâr.”

Er mwyn ennill y wobr Efydd Siarter Iaith Codi Caerau Sir Gar, trefnwyd nifer o weithgareddau i hybu’r iaith Gymraeg gan y disgyblion a’r staff o dan arweiniad Mrs Sharon Jones, cydlynydd Cymraeg yr ysgol.

Lansiwyd y siarter iaith i’r disgyblion gyda pherfformiad gan Mari Mathias o’r grŵp Raffdam, un o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi. Cynhaliwyd Sioe Ffasiynau gan Gwmni Shwl di Mwl a rhannwyd gwybodaeth am fanteision dwyieithrwydd gyda’r rhieni ac am y bwriad i ennill gwobr siarter Iaith.

Trefnodd y Gymdeithas Rhieni a Ffrindiau noson hwyl Santes Dwynwen gyda Tudur Phillips i holl ddisgyblion yr ysgol. Trefnodd Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr i Anni Llŷn a disgyblion blwyddyn 4 i lunio geiriau Anthem Siarter Iaith newydd i’r ysgol a chyfansoddwyd y gerddoriaeth wreiddiol gan Mrs Eirlys Phillips.

Enillodd yr ysgol yr ail wobr yng nghystadleuaeth creu gwefan yn Eisteddfod yr Urdd 2017 am wefan Gymraeg ar ddiogelwch ar y we a fydd yn ddefnyddiol i ysgolion Cymru i ddysgu am e.ddiogelwch.

Yn 2016, dathlodd yr ysgol gan mlwyddiant a hanner ac mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen eleni wedi bod yn perfformio sioe wreiddiol ar hanes yr ysgol sef ‘Penboyr Un Pump Sero, Dewch am dro’ i’r rhieni a’r gymuned.

Dywedodd Mrs James: “Yn rhan o’r sioe, roedd golygfa am hanes y ‘Welsh Not’ a sut roedd disgyblion yn y gorffennol yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg. Mae plant Penboyr yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd maent yn eu cael i ddysgu a siarad yr iaith ymhobman.”

Hefyd, fe wnaeth y disgyblion greu rhaglen radio ar Cymru FM yn cynnwys cyfweliadau, caneuon a rhannau o’n sioe a chrëwyd gwefan i rannu hanes yr ysgol i’r gymuned ehangach yn cynnwys ysgolion ar draws Cymru.

Ers 2008, mae’r ysgol wedi ennill gwobrau yn flynyddol ar brosiectau ar hanes ein treftadaeth leol ac wedi derbyn cyfanswm o £4,750 yng nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Bydd yn mynychu seremoni wobrwyo ar 7fed o Orffennaf eto eleni am y prosiect ar hanes yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros addysg a gwasanaethau plant: “Rwy’n hynod o falch bod y plant hyn wedi cael eu hysbrydoli i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg y tu allan i ffiniau’r ystafell ddosbarth ym mhob agwedd o’u bywydau. Gobeithio y bydd llawer o ysgolion eraill yn dilyn eu hesiampl.”

 Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr  aelod o fwrdd gweithredol dros ddatblygu’r iaith Gymraeg: “Mae’n bleser gweld a llongyfarch fy hen ysgol gynradd ar ei llwyddiant.

“Mae fy nyled bersonol i yn fawr i’r addysg Gymraeg a dderbyniais yno, ac a fu yn sail ieithyddol i mi ar hyd y blynyddoedd. Mae gweld fod disgyblion Ysgol Penboyr ein dyddiau ni yn cael yr un cyfleoedd yn beth arbennig iawn.  Diolch i’r staff a’r disgyblion am eu gwaith da.”

Nod syml y Siarter laith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.

Mae'r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.

Er mwyn i bawb gael eu gwobrwyo ar sail eu hymdrechion, sefydlwyd yr egwyddor bod pob ysgol yn gosod eu gweledigaeth heriol a chyraeddadwy ei hun. Anelir am y wobr aur dros gyfnod o dair blynedd.

Mae’r Siarter yn bwysig oherwydd bod llai o blant yn cael profiadau Cymraeg a Chymreig yn y cartref, er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig. Hefyd i sicrhau mai Cymraeg yw iaith naturiol yr ysgol a bod sefyllfa’r Gymraeg yn gryf yn yr ysgol os bydd disgyblion di-Gymraeg yn dechrau yn yr ysgol.

Diweddarwyd y Dudalen ar: 16/06/2017 (09:35)