• Hepgor gwe-lywio
  • English

Byddwch yn ddiogel yr haf hwn

Gofalwch am eich hun ac eraill o’ch hamgylch…

Gofalwch am eraill:

  • Cadwch lygad allan am bobl sy’n fwy agored i niwed yn y gwres – mae pobl hŷn yn enwedig yn gallu
  • dioddef. Galwch draw gyda theulu, ffrindiau a chymdogion er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iawn.
  • Beth am gynnig cymorth – fel cynnig mynd i’r siop ar eu rhan. Gofynnwch iddynt a oes angen cymorth ychwanegol arnynt.

Cadwch yn oer iach:

  • Ewch am gawod neu fath oer yn gyson.
  • Yfwch yn gyson ond ceisiwch osgoi diodydd sy’n cynnwys caffein, diodydd llawn siwgr megis cola ac alcohol – dŵr a sudd ffrwythau yw’r gorau
  • Bwytewch fwy o fwydydd oer, megis salad, sy’n cynnwys dŵr.
  • Ceisiwch leihau lefelau o ymarfer corff
  • Gwisgwch ddillad cotwm llac
  • Ar bob adeg, rhowch eli haul ag SPF uchel ar eich croen, gwisgwch sbectol haul a het haul yn yr awyr agored.

Yn y cartref:

  • Cadwch y gwres allan drwy gadw’r llenni a’r bleinds ar gau drwy gydol y dydd.
  • Ar ôl i’r tymheredd oeri y tu allan, agorwch y ffenestri i adael aer ffres i mewn ond caewch nhw gyda’r nos.
  • Chwistrellwch ddŵr ar y ddaear sydd y tu allan i ffenestri er mwyn oeri’r aer ond gofalwch nad yw’n rhy llithrig o dan draed.


Mae symptomau trawiad gwres a lludded gwres yn cynnwys:

  • Cysgadrwydd, gwendid neu newid mewn ymddygiad
  • Cynnydd yn nhymheredd y corff
  • Anhawster anadlu a chynnydd yng nghuriad y galon
  • Diffyg hylif, cyfog neu chwydu
  • Problemau Iechyd yn gwaethygu yn enwedig problemau gyda’r galon neu broblemau anadlu

Os ydych chi ’n amau bod rhywun yn dioddef o drawiad gwres neu ludded gwres,
ewch i chwilio am gymorth ac yna:

  • Nodwch dymheredd y claf
  • Os yw’n bosibl, symudwch y claf i rywle oerach
  • Oerwch y claf yn gyflym drwy chwistrellu dŵr arno, neu ei lapio mewn cynfas damp; defnyddiwch ffan
  • Ceisiwch annog y claf i yfed.

Diweddarwyd y Dudalen ar: 06/07/2018 (10:51)